A Look At – Disability Sports In Wales


Following the success of last year’s inaugural event, the week-long multi-sport and multi-venue Para Sport Festival is returning to Swansea in 2023 – starting on Monday 10 July with the introduction of Welsh Para Golf Open at Langland Bay Golf Club.

An insport Series event, which allows people from all ages and abilities to come and try sport for the first time, is returning as one of the key Para Sport Festival features.

The event returns following the positive feedback from the 2022 insport Series event which saw a massive 93% of people say they would attend future insport events.

Over 20 sports – such as boccia, cricket, golf and wheelchair rugby – will be brought together by local insport Clubs and National Governing Bodies for people to choose from. Offering fun opportunities to discover hidden sporting talents, and to engage with local insport Clubs that create a safe and inclusive environment for participates to be active, 64% of people who took part last year were inspired to take up a new sport.

The insport Series event will be one of the biggest ever to be held in Wales, and it will be held at Swansea University’s Singleton Campus.

Attending the Para Sport Festival could be life-changing for participates and the biggest example of this is Beth Munro, who attended a local insport event in North Wales and discovered taekwondo for the first time. Just 18 months later she was winning a silver medal at the 2020 Paralympics in Tokyo!

Throughout the Para Sport Festival week there will be great opportunities to spectate if unable to participate, with world-class talent from around the UK and Europe competing.

Returning for another year is target shooting, which takes place at the Swansea Indoor Tennis Centre. Spectators will have the opportunity to watch over three days, from Friday 14 to Sunday 16 July.

Growing from the success of Deaf Rugby 7s last year, Friday Night Lights will be returning in the form of Deaf Football. The Home Nation fixture will descend on Swansea Athletics Pitch on Friday the 14 July.

2023 sees the return of the Wheelchair Rugby Welsh Open. It’s hoped that following the success of the Wheelchair Rugby League World Cup that spectators will want another dose of wheelchair rugby with will take place Saturday 15 July at the LC Swansea.

If getting down to Swansea isn’t possible then the event will also be available to watch via our live stream

The closing weekend of the Para Sport Festival will host the 2023 World Triathlon Para Series Swansea, which will take place on the SA1 Waterfront on Saturday 15 July.

This year’s race will take place within the qualification window for the 2024 Paralympic Games in Paris, enabling British paratriathletes to compete for vital points in front of a home crowd.

Last year was one to remember for Welsh Triathlon, with the achievements of Welsh triathletes at the 2022 Commonwealth Games – with Non Stanford, Olivia Mathias, Dominic Coy and Iestyn Harrett bringing home the Mixed Team Relay Silver Medal. Team Wales also selected its first paratriathlete Rhys Jones and his guide Rhys James who came fourth, leading the way for other parathletes in Wales.

Rounding off the weekend and the Para Sport Festival in style will be the IRONMAN 70.3 Swansea on Sunday 16 July.

Information on the 2023 Para Sport Festival (10-16 July) is available at parasportfestival.co.uk. Keep an eye out for the release of more competitive sports on offer to watch throughout the week.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf y llynedd, mae’r Ŵyl Para Chwaraeon aml-chwaraeon ac aml-leoliad wythnos o hyd yn dychwelyd i Abertawe yn 2023 – gan ddechrau ddydd Llun 10 Gorffennaf gyda chyflwyno Twrnamaint Para Golff Agored Cymru yng Nghlwb Golff Bae Langland.

Mae’r digwyddiad yng Nghyfres insport, rhaglen a ddatblygwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru sy’n galluogi pobl o bob oedran a gallu i ddod i roi cynnig ar chwaraeon am y tro cyntaf, yn dychwelyd fel un o brif nodweddion yr Ŵyl Para Chwaraeon.

Mae’r digwyddiad yn dychwelyd yn dilyn adborth cadarnhaol o ddigwyddiad Cyfres insport 2022 pan ddywedodd canran enfawr o 93% o bobl y byddent yn mynychu digwyddiadau insport yn y dyfodol.

Bydd mwy nag 20 o chwaraeon – fel boccia, criced, golff a rygbi cadair olwyn – yn dod at ei gilydd dan faner Clybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol i bobl ddewis o’u plith. Gan gynnig cyfleoedd hwyliog i ddarganfod talentau chwaraeon cudd, ac i ymgysylltu â Chlybiau insport lleol sy’n creu amgylchedd diogel a chynhwysol i gyfranogwyr fod yn actif, cafodd 64% o’r bobl a gymerodd ran y llynedd eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn camp newydd.

Y digwyddiad fel rhan o gyfres insport fydd un o’r digwyddiadau Cyfres insport mwyaf i’w gynnal erioed yng Nghymru, a bydd yn cael ei gynnal ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe.

Gallai mynychu’r Ŵyl Para Chwaraeon newid bywydau’r rhai sy’n cymryd rhan a’r enghraifft orau o hyn yw Beth Munro, a fynychodd ddigwyddiad insport lleol yng Ngogledd Cymru a darganfod taekwondo am y tro cyntaf. Dim ond 18 mis yn ddiweddarach roedd hi’n ennill medal arian yng Ngemau Paralympaidd 2020 yn Tokyo!

Drwy gydol wythnos yr Ŵyl Para Chwaraeon bydd cyfleoedd gwych i wylio os na allwch chi gymryd rhan, gyda thalent o safon fyd-eang o bob rhan o’r DU ac Ewrop yn cystadlu.

Yn dychwelyd am flwyddyn arall mae saethu targedau, a gynhelir yng Nghanolfan Tennis Dan Do Abertawe. Bydd gwylwyr yn cael y cyfle i wylio dros dri diwrnod, o ddydd Gwener 14 i ddydd Sul 16 Gorffennaf.

Gan dyfu o lwyddiant y Rygbi Byddar 7 Bob Ochr y llynedd, bydd Goleuadau Nos Wener yn dychwelyd ar ffurf Pêl Droed Byddar. Bydd gêm y Wlad Gartref yn cyrraedd Cae Athletau Abertawe ddydd Gwener 14 Gorffennaf.

Yn 2023 bydd Pencampwriaeth Agored Rygbi Cadair Olwyn Cymru yn dychwelyd. Yn dilyn llwyddiant Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair Cadair Olwyn, y gobaith yw y bydd gwylwyr eisiau dos arall o rygbi cadair olwyn a fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden Abertawe.

Os nad yw cyrraedd Abertawe yn bosibl i chi, bydd y digwyddiad hefyd ar gael i’w wylio drwy ein llif byw.

Bydd penwythnos olaf yr Ŵyl Para Chwaraeon yn cynnal Cyfres Para Triathlon y Byd Abertawe 2023, a gynhelir ar y Glannau yn SA1 ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf.

Bydd y ras eleni’n cael ei chynnal o fewn y ffenestr cymhwyso ar gyfer Gemau Paralympaidd 2024 ym Mharis, gan alluogi paratriathletwyr Prydain i gystadlu am bwyntiau hollbwysig o flaen torf gartref.

Roedd y llynedd yn flwyddyn i’w chofio i Driathlon Cymru, oherwydd llwyddiannau triathletwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 – gyda Non Stanford, Olivia Mathias, Dominic Coy ac Iestyn Harrett yn dod â Medal Arian y Tîm Cyfnewid Cymysg adref. Dewisodd Tîm Cymru ei baratriathletwr cyntaf hefyd, Rhys Jones, a’i dywysydd Rhys James, a ddaeth yn bedwerydd, gan arwain y ffordd i bara-athletwyr eraill yng Nghymru.

Yn cloi’r penwythnos a’r Ŵyl Para Chwaraeon mewn steil bydd DYN HAEARN 70.3 Abertawe ar ddydd Sul 16 Gorffennaf.

Mae gwybodaeth am Ŵyl Para Chwaraeon 2023 (10-16 Gorffennaf) ar gael yn parasportfestival.co.uk. Cadwch lygad am y chwaraeon mwy cystadleuol sydd ar gael i’w gwylio drwy gydol yr wythnos.