Stevie Williams Amdani Ar Gymal 11 Cyn Y Ras Fwyaf Byth



Carwyn Harris

Mae ‘di bod yn flwyddyn a hanner i Stevie Williams hyd yma.

Dechreuodd y beiciwr o Aberystwyth y flwyddyn drwy ennill cymal a chrys yr enillydd yn y Tour Down Under yn Ionawr cyn dod yn drydydd tu ôl i Tadej Pogačar yn y Volta Ciclista a Catalunya.

Yna daeth y canlyniad gwefreiddiol wrth iddo greu hanes fel y Prydeiniwr cyntaf i ennill y ras undydd La Flèche Wallonne.

Daeth y fuddugoliaeth yn dywydd ofnadwy, canlyniad gorau Williams hyd at heddiw.

“Roedd hi’n ddydd prydferth,” dywedodd Williams.

“I ennill clasur fel hynny, yn y tywydd yna mae’n spesial. I ddilyn lan ar be ddigwyddodd yn Awstralia, ac ennill yn y Tour Down Under roedd yn foment balch iawn.

“Tyfais i fyny yn gwylio’r clasuron a’r arwyr cynt yn ennill ar ben y Mur de Huy sy’n gwneud e’n ras gwych i ennill.

“Rwy’n falch o gael y fuddugoliaeth ar y palmares a dim ots beth sy’n digwydd o hyn ymlaen, rwy ‘di ennill La Fleche.”

Ar y dydd, dangosodd Williams taw fe oedd y reidiwr gryfach ar ddringfa enwog y Mur de Huy, yn ymosod ar y cylchdro cyntaf gyda 30 cilomedr i fynd cyn i’r peloton ail-ymuno, gan y peloton ac yna yn gwibio i ffwrdd gyda 300 metr i fynd am fuddugoliaeth fythgofiadwy.

“Ro’n i’n gwybod fy mod i yn siâp da yn mynd mewn i’r Ardennes,” dywedodd Williams.

“I fod yn onest, unwaith aeth y ras yn llanast a wir glasur, ro’n i’n gwybod gallwn i ennill.

“Pryd es i dros y Mur de Huy am y tro cyntaf teimlais fod fy nghoesau yn gryf ac roedd hynny tua 100 cilomedr allan.”

Y Tour a Chytundeb Newydd

Rasiodd Williams y Giro d’Italia y llynedd ond eleni y prif ffocws oedd ar y Tour de France.

Mae cystadlu yn ras mwyaf y byd wedi cymryd amser hir i ddod.

Roedd Williams yn reidiwr ifanc o fry, gan ennill cymal yn y Giro d’Italia Giovani dan 23 yn 2018. Ar ôl hynny y disgwyl oedd iddo barhau i dyfu.

Ond, treuliodd Williams y ddwy flwyddyn olynol gydag anafiadau hir dymor gyda thîm Bahrain-McLaren.

Cyhoeddwyd bod Williams wedi ymuno â thîm B&B Hotels ar ddiwedd 2022 ond i weld y tîm yn cwympo gan ei adael heb dîm.

Cafodd cytundeb o un flwyddyn gydag Israel-Premier Tech, a dydy Williams heb edrych yn ôl ers hynny.

Ar ôl ei fuddugoliaeth yn yr Arctic Race of Norway, cafodd ei gytundeb ei ymestyn gan ddwy flwyddyn arall ac yna ar ddydd Sul cafodd ei gytundeb ei ymestyn eto hyd at 2028.

Yn amlwg, nid oedd hi’n dewis anodd i Williams neu IPT, oherwydd bod ei fuddugoliaethau yn y Tour Down Under a La Flèche Wallonne yn fuddugoliaethau cyntaf ei dîm yn ras cymalau a ras undydd.

Yn siarad am y cytundeb newydd dywedodd Williams: “Rwy’n teimlo fy mod i wedi darganfod lle yn nhîm lle rwy’n gallu cael y gorau o fy hun ar y beic.”

“Fel y gallwn weld, ers y Giro llynedd rwy wedi cymryd cam i fyny yn fy ngallu ac mae hynny wedi cael ei wobrwyo gyda chanlyniadau da ac er dwi’n eithaf newydd ar y tîm rwy’n teimlo fel fy mod i wedi bod yma am 10 mlynedd, nid dim ond un neu dau.

“Rwy’n 28 nawr a dylai’r pedwar mlynedd nesaf bod yn gyfnod lle dwi’n cyrraedd fy ngorau ac yn parhau i wella, felly mae’r cytundeb yma o’r tîm yn rhoi hyder i mi a wnes i ddim ail-feddwl cyn arwyddo gydag IPT.

“Rwy mor hapus gyda’r tîm, rwy wedi gwella o fewn un flwyddyn, ac rwy fethu aros am y pedwar nesaf.”

Dechreuad Anodd i’r Tour

Dechreuodd y Tour de France yn anodd i sawl reidiwr.

Collodd Geraint Thomas bron pedwar munud a hanner i’r ffefrynnau ar yr ail gymal, a wnaeth Williams gael dydd erchyll ar gymal un, yn colli bron hanner awr.

Teimlodd Williams yn well ar gymal dau, ond doedd e methu cystadlu am fuddugoliaeth y cymal wrth i Kévin Vaquelin ennill o ddihangiad.

“Teimlais gymaint yn well ar gymal dau ac roedd hynny’r un mor dwym,” dywedodd Williams.

“Rwy’n credu ro’n i angen un dydd i fy nghorff deall be’ oedd yn digwydd. Enillodd y dihangiad yng nghymal dau, roedd hynny wedi bod yn darged i mi ers misoedd cyn y Tour ond wnaeth e ddim mynd i’r cynllun.

“Dyna’r ffordd mae pethau’n mynd weithiau, dyna sut mae rasio a nawr mae gen i bythefnos i ddangos fy wyneb a cheisio creu cyfleoedd.”

Yn ei Tour de France cyntaf dyw Williams heb gael ei syfrdanu gan lefel y peloton ond mae o wedi sylwi bod pawb ar eu lefelau uchaf.

“Rydym yn rasio yn erbyn yr un reidwyr trwy’r flwyddyn,” dywedodd Williams.

“Yr unig wahaniaeth yw fel arfer dim ond 60 neu 70 y cant ohonom sydd ar eu safon uchaf ond fan hyn mae pob un 100%.

“Hefyd mae’r bwlch rhwng dydd gweddol a dydd gwael yn fwy eang byth.”

Targedau Newydd

Nawr, bydd rhaid i Williams edrych am gyfleoedd yn y dihangiad, fel y gwnaeth o yng nghymal pedwar ond i dîm UAE tynnu nhw yn ôl.

Er hynny, edrychodd Williams fel bod ganddo goesau da drwy gyrraedd copa’r ddau fynydd cyntaf o flaen pawb arall a sicrhau 10 pwynt am grys y mynyddoedd.

“Doedd dim cynllun i fynd am bwyntiau mynydd,” dywedodd Williams.

“Ro’n i yn y dihangiad a dim ond dwy funud oedd ganddom ni felly meddyliais; ‘Rwy’n gadael gyda rhywbeth’.

“Cymrais y 10 pwynt a ti byth yn gwybod beth allai ddigwydd yn ras fel hon lawr yr heol.

“Os rwy’ yn y dihangiad am gwpl o ddyddiau yn y mynyddoedd uchel wedyn mae e mond yn cymryd 30 neu 40 pwynt a bydd cyfle ganddoch chi.”

Wythnos diwethaf, gwnaeth Sportin Wales rhagdybio lle y gallai Williams a Geraint Thomas ymosod yn y dyddiau sydd i ddod drwy awgrymu bod tirwedd cymal 11 yn un y gallai Williams anelu amdano.

“Mae diwedd cymal 11 gyda diwedd punchy ac mae e’n edrych fel dydd i’r dihangiad, felly rwy’n gobeithio gallai llwyddo i gael mewn i symudiad ar y dydd a cheisio i fod yno yn y diweddglo,” dywedodd Williams.

“Bydd angen i lawer o bethau i fynd yn gywir er mwyn i hynny ddigwydd ond gobeithio gallwn ni gael cwpl ohonom ni o’r tîm yn y dihangiad tua’r diwedd.

“Gwelon ni pa mor gryf oedd Derek Gee ar gymal naw a dwi ddim yn credu bod unrhyw ddydd yn anghytuno gyda fe yn dihanghiad.

“Ar ddiwedd y dydd, gallwn ni siarad am y diweddglo trwy’r dydd ond y peth pwysicaf yw cael yn y dihangiad, llwyddo trwy’r 10 i 15cilomedr cyntaf a chael dy hun yn y symudiad cywir. Gobeithio bu fi yno.”

Gobeithion y Tour a Breuddwyd y Gemau Olympaidd

Cymaint yw her cwpla’r Tour de France byddai’n hawdd i Williams bodloni â chyrraedd terfyn y Tour yn Nice ond mae ganddo gynlluniau fwy nag hynny.

“Ennill cymal, dyna fydd Tour lwyddiannus,” dywedodd Williams.

“I fod yn y symudiadau cywir a chael buddugoliaeth bydd hynny’n Tour lwyddiannus, ond os dwi’n gadael heb gymal wedyn dwi heb gyrraedd fy uchelgais yma.

“I ennill ras rydych angen llawer o bethau i fynd yn gywir. Weithiau mae ganddoch chi’r coesau cryfaf ond dyw e ddim yn mynd o dy blaid di a gall unrhywbeth ddigwydd ar ddydd y ras.

“Edrych yn ôl ar La Fleche, aeth popeth yn gywir y dydd hynny a wnes i gredu yn fy hun sef y peth pwysicaf i wneud.”

Eleni mae’r Tour yn cwpla ar ras unigol yn erbyn y cloc ar Promenade des Anglais yn Nice yn hytrach na’r ras wib arferol drwy strydoedd Paris lawr y Champs-Élysées.

Daw hyn oherwydd y gemau Olympaidd ym Mharis. Cafodd Williams a Chymro arall, Josh Tarling, eu henwi yn y ras stryd yn y gemau Olympaidd sef bythefnos ar ôl i’r Tour orffen.

Gyda digon o ddringfeydd mae’r ras yn edrych fel ei fod yn un sy’n argoeli’n dda ar sgiliau Williams.

“Mae’n gystadleuaeth enfawr ond i fod yn onest dwi heb feddwl amdano ryw lawer oherwydd bod y Tour yn full gas pob dydd,” dywedodd Williams.

“Gyda’r gemau Olympaidd mae yna lai o reidwyr a dim ond y gorau yn y byd sydd yno, i gyd yn ceisio am y fedal aur.

“Rwy’n credu bydd y ras yn yr un anoddaf dwi erioed mynd i rasio, bydd e’n ras afreolus gyda phawb yn cystadlu.

“Gobeithio gallaf gyrraedd Paris gyda’r coesau gorau posib ar ddiwedd y Tour a bod yn gystadleuol.”