A Look At The Six Nations With The Fab Four


In a familiar dwelling for all four, we sat down at The Ospreys Home; Swansea.com Stadium with Lee Byrne, James Hook, and Shane Williams to catch up on their predictions on the upcoming tournament, as well as a cast back over their time playing. The fourth member, Mike Phillips, currently living in Dubai, was interviewed separately.

Tell us your favourite memories of the Six Nations tournament

Mike: The winning moments are always the best. 2008 winning up in Twickenham alongside Lee, Shane and James was just amazing, and then going on to win the Grand Slam that year.

The Grand Slam in 2012 was special also because of what happened in the World Cup 2011 (Wales lost 9-8 in semi-final to France with 14 men after Sam Warburton was controversially sent off), and how we bounced back and used that as motivation to win the championship. Then to follow that up by winning the Championship in 2013 and beating England by 30 to bring it home again.

Lee: It’s got to be the 2008 Grand Slam. Winning the first game in Twickenham, and this man sat beside me here (nods to James), set me up for that try. But beating England for the first time in 22 years – that for me was the start of my international career. It made me gain confidence as a player and we went on to win the Grand Slam. It was great to win it with Mike, Shane and Hooky – we all had a big part in that game.

James: I think, it’s probably the same for the four of us to be honest. I think aside from the 2008 Grand Slam – my first Six Nations game against Ireland. Just playing in the Six Nations was special enough and I got my first cap out in Argentina.That Twickenham game though was really special for me – the way we were so bad in the first half, and no one expected us to win, and then we came back the second half and went on to win the Grand Slam.

Shane: Yes, obviously I had won the Grand Slam in 2005 (everyone laughs at his humility) … I’m a little bit older than these boys. That was incredible because no one gave us a hope of even doing well in that Six Nations. We’d had a poor 2004 and we won the Grand Slam!!One of the standouts of the Six Nations was my first cap. I’d only been playing professional rugby for 18 months, and had the opportunity to play against France in 2000 at the Millennium Stadium and my first touch was an interception pass to Émile Ntamack, who scored from about 60 yards, so I immediately thought that my international career was over. However, after the game, Graham Henry came up to me, and congratulated me on a good performance and said that I was going to be playing the following week against Italy, so that always kind of sticks out for me. I have so many fond memories of the six nations – it’s an incredible tournament.

Out of the grounds, which was your favourite ground to play at? And why?

Mike: James always talks about the best coaches you have are the ones that pick you, and it’s similar to this question. The best stadiums/grounds are where you win basically! It’s all about winning. The Principality is the best in the world, but I also loved playing in Twickenham – I’ve had two starts in The Six Nations there and two wins!

Shane:You can’t beat the Millennium Stadium, that for me was where my international career began. The first game against France, and the last game against Australia. I’m a bit biased really, but you can’t beat that stadium.

Having said that – I also really enjoyed playing up in Murrayfield, and never lost up there! We also had a couple of good nights out after. It’s not a bad city to visit for the rugby – and for a few beers as well. And it’s a very historical and traditional stadium which I really enjoyed.

James:The Principality Stadium for me is my favourite. Other than that, I used to love playing at Stade de France. It’s a tough place to go, but in terms of the look of the stadium, and the atmosphere there. The French supporters are bonkers, in a good way.

Lee:Of course, The Principality Stadium. But every player that you speak to – New Zealanders, Australians, any country, they always say that The Principality has the best atmosphere. Also, the Stade de France, as I loved playing at night-time, and French games are always 9pm kick offs. I’ve always had good memories there, have always played well and scored a couple of nice tries there – the crowd – 85,000! Really enjoy it!

Are you open or closed roof fans?

James: Closed

Shane:Closed – You close that roof – and it contains so much of the atmosphere! And we don’t like the rain really!

Lee:Closed – don’t want the fake tan coming off! Henson didn’t like the rain 😉

Which was your least favourite ground to play at? And why?

Mike: Maybe the current Italian stadium; Flaminio Stadium. Only because the atmosphere wasn’t as good as their old stadium. But an amazing city to play with all its history. People have questioned Italy over the years but as a place to visit, you can’t get much better than Rome. And it’s amazing to see them really improving over the last 2 seasons.

Lee:Lansdowne Road was a horrendous place to play – really windy and open. Croke Park – I’ve had 2 yellow cards there, so not a fan of that either.

Shane:Twickenham for me, I never really warmed to it. Obviously as a player, you’re not going to get much of a welcome, being Welsh. It just felt quite flat whenever I played there. We won there once, in 2008 – the boys cleaned up so that was a big win and a great feeling. I remember going to games and having things thrown at the bus and having to hold Alfie back on the bus because he wanted to step off and have a word. It’s a tough place to play and not a lot of fond memories there really. We’ve had a few kick ins there along the way too.

It’s also a long way from anywhere, so after the game – trying to get to the pub without seeing any English fans was a task in itself.

What are the after-game ceremonies/parties/hospitality like for players? Is there a better or worse?

James:Italy do it the best! Black tie – a hell of a banquet. Twickenham is a quick pastie and away.

Shane:Italy are known for their ‘posh functions’ – us Welsh boys weren’t used to it. We’d turn up at some chateau on top of a hill, with armed guards driving us. We’d stumble out and the likes of Bergamasco and Parisse, would turn up in Ferrari’s with super model women on their arms. A different gravy all together. Back in Cardiff was just the Hilton then straight to Walkabout or Tiger Tiger.

Your worst opponent and why within the Six Nations?

Mike: I would say Sergio Parisse! Always offside, and if he did any type of skill people would go on about it for years after. I do a great off load, no one mentions it!

Lee:As a full back for me – always someone like Ronan O’Gara – there’s not many as a full back you can have a ding dong with but he’s one for me.

Shane:Austin Healey was definitely up there and then the Benny Cohen ‘Shane who?’ saga. So my first game in Twickenham in 2000, I was up against Healey and Cohen and all game, Ben didn’t say a word, but Healey didn’t shut up for the whole 80 minutes, telling me to ‘’Go back and visit your sheep’’, and that I was ‘’a Mammy’s boy’’ and I’m ‘’not old enough to play for my country’’ and he talked me off the field – it was an absolute nightmare. Then after the game, Ben Cohen made the comment ‘Shane who?’ which was probably understandable as I was crap. But, it was Shane Howarth and myself playing in the game, so I didn’t take it personally but the problem was, the whole of Wales was in uproar. ‘’How dare he not know who Shane is after playing against him for 80 mins?!!’’, and it was a big deal in the papers – even my grandparents were upset and angry!That was my first real intake on how serious Welsh fans are about the game. And I remember, he (Cohen) then went on to play against the Scarlet’s in Stradey Park and he got absolutely rinsed for 80 minutes because of that. It’s weird really, as no one in the Scarlet’s likes me really as I’m a Neath boy!!! Haha. I honestly never took offence over the comment though, but Wales certainly did.

Other than that Mike Phillips – haha! Even though he’s my mate – he’s your opponent even when you’re on the same team. You’re frightened to make a mistake! Him and Ronan O’Gara in any Ireland game – all you could hear is those two going at each other, but then happily having a pint with afterwards.

James:My first game against Ireland in the Six Nations in 2006, O’Gara was playing, and he was getting into me, telling me to ‘‘f off’’ and ‘‘get back down to the lower leagues’’, but after the game, he’s great.

Best city for a night out after the game?

Mike: It’s got to be Cardiff, after any type of win! But other than that, Dublin is amazing! Say no more!!

Lee:Dublin, it’s gotta be! (said with zero hesitation) – Copper Face Jacks, Krystles – definitely for me!I went there recently, sober!! Haha was nice to be back. Dublin for me – 100%

James:For me, Italy was always good! We’d have the function, and then we’d go out after. I think wherever you win, it’s always a good night after.

Shane:Italy would start off sophisticated, with canapes and champagne, and quickly it would go from black tie to your tie around your head like Rambo – you’re on the sambucas and you’re off into town. You get well looked after in Italy, the Italian boys go out with you afterwards, but then there’s always that long lonely walk home. And that time that me and Lee tipped the milk float on the way home haha. That sums up a night in Italy.

Lee:Yes – obviously it’s changed quite a bit now, as the boys can’t go out in Cardiff because of social media. We were lucky as we just missed that.

Any interesting stories from nights out that you can share?

Mike: I never used to go out after games!

How are Wales looking for the Six Nations tournament?

Shane:Don’t write Wales off. 2004 we were rubbish, and then won the Grand Slam in 2005. 2007 we got knocked out of the World Cup against Fiji and then went on to win the Grand Slam in 2008.

The great redeemer is back in Gats, (Warren Gatland) and he’s certainly done the business in the past. I think he’s certainly got his work cut out this time. I don’t think he has the quality of players that he had in 2008, certainly. But we can’t do any worse than what we’ve done recently. I think there’s a lull in rugby in Wales at the moment. I think its perked up a little bit recently, there were some cracking games of rugby last Christmas with some good players coming through and individual performances in the Autumn Series. But Gats has got his work cut out, and it’ll be interesting to see what he does, what players he brings in, what old guard he needs to push out, and which youngsters are going to come through, but don’t write them off just yet. We’ve got a tendency of bouncing back and playing well when our backs are against the wall. We’ve got a World Cup coming up too in less than a years’ time. Gats is good but is he that good?!

James:I think it’s about momentum. If we beat Ireland in the first game, it’s about belief! Ireland are one of the contenders to win it, I think. There will probably be some new faces under Gatland, whether he’ll pick a new captain leading into the World Cup. There’s talk about Jac Morgan potentially being captain, and he’s only 22 (like Warburton was). When he comes in, he likes to chuck a curve ball in, or do something a little bit different. Let’s see who his backroom staff are. Whether he brings Howley back in, haha.

We’ve definitely got some quality players in there though – it just needs to be more consistent.

Lee: I’m just looking forward to see how Gats rebrands himself. He’s given away a lot of his secrets in his after-dinner speaking (around his motivational mind game playing). I didn’t expect to find him back in the Welsh coaching set up, he probably didn’t either. It’ll be a credit to him if he can turn it around and be interesting to see how we do. If we can beat Ireland, and have that momentum, we can go on and win it, but if not, we’ve got England at home then France away, it’s not looking likely. Italy we can’t forget about either– one of the most improved international countries out there, it’ll be tough whatever happens.

What impact does a World cup have on a player?

Shane: Huge pressure and I thinks it’s good. The players that can handle the pressure the most are always the best players you’re going to have in your squad. There will be a lot of new faces in this Six Nations, but what that does is set a challenge. If you play well in the Six Nations then there’s a very good chance you’re going to be in the World Cup, if you don’t, he’ll bring someone else in – Gats is pretty ruthless.

Also, for the URC, it’s telling players they need to play well in their regions or clubs, as if they don’t, they won’t be selected. It’s exciting. There’s a change of guard in the coach. The Six Nations is important, one of my favourite tournaments, but the World Cup is huge! We need to get to at least the knockout stages and at the moment even that’s a big ask.

Who do you think is vying for second place in this Six Nations? Beyond Wales?

Shane: France – They’re obviously the Six Nations champions. They individually have always had class players. Collectively they look like a world class outfit. Sean Edwards has definitely been a big factor in that. Defensively they look organised. They look far more disciplined than the usual French teams we’ve seen in the past. And they don’t panic. I’ve seen French teams implode when they’re a try or two down and then lose by 40, 50 points, and literally give up. Coming out at half time with a fag in their mouth haha, and after just having a wine and cheese board casually in the dressing room.

However, this team play it right to the 80th minute and have had a couple of last-minute victories. In the Autumn Series it’s shown that they’ve got that confidence to play right until the end. I’m a big fan of Galthie. He’s a very cool, suave customer. He knows his onions. And all of a sudden, he’s got a good coaching pack behind him that keeps him on his toes and keeps these players hungry. The likes of Dupont, Ntamack, Penaud and those guys – absolute class. They know how to win. It seems to be going their way for the moment.

But don’t write Ireland off. They are a niggly side, but they need Sexton. They’ve got nowhere near him at the moment and that’s the big factor.

France have got a couple of Sextons. So, it gives them a bit of an edge over Ireland. Wales just don’t have the strength and depth that the others have at the moment, but again I’m not writing them off. I certainly won’t be making any bets.

James: At the lower end of the table then it’s hard to decipher between them. Italy are definitely improving and could cause another upset again this Six Nations. I think England we need to watch, as they’ve got so much talent and haven’t been firing recently but are ones to watch. Their new coach could easily spark something. They’ve got huge power up front.

Shane: Sometimes it’s a little change in personnel. If you look at England – their squad are World Cup winners. Easily. But sometimes if things get a bit stagnant, you can’t foresee what’s going to happen.

James: It must be frustrating to be a Scotland fan or coach even. Gregor (Townsend) and Tandy (Steve) have both done a great job, they’ve got some really good players, but I don’t know what’s happening with Finn Russell and Gregor. As a team, they’ve got to go to France and Twickenham – it’s going to be a tough ask for them. They are a team who can pull it out of the bag now and again, but consistency – they haven’t shown that.

Shane: The fact as well is, that there’s new coaches with England too, so it’s a sketchy moment for them as well with how the players are going to take to how the coaches want them to play. Also, England don’t like playing Scotland, as they’re comfortable in playing against them.

I like the way Scotland play. They try and play an open and expansive game. They’ve got some really exciting players within the squad. There’s got to be some issue if they don’t play Finn Russell, as he is class. Even though Mike Phillips doesn’t think so, just check Twitter 😊

And they do play some lovely rugby, but just get edged out in results and that’s more confidence than ability on the field. But tough games for them in this Six Nations, which is why I think they’ll finish lower on that table. It’s such a great tournament in terms of there’s possibly four teams who can win it, out of the six, which is exciting to watch! I enjoy watching Scotland. They always score tries and have a go. They just can’t get the results at times. A frustrating team to support. They are always an inch away!

James: Then look at France. We’ve been to France before and after playing poorly, their fans start to boo them or they’ll go deadly silent as if they can’t be bothered to support any more. Let’s hope that’s not the case this tournament.

Shane: The Welsh will never do that! Beers, singing, cheering us on.

Does playing home vs away make a massive difference?

Shane: Yes. Well… it hasn’t in terms of results before. We’ve won championships whilst playing more games away. But you always want to play as many games at home as possible. The support, the atmosphere, being close to home, the comforts, your home stadium, etc. It all helps. If you can go away from home and beat a great team, like in 2008 in Twickenham – it makes the rest of the competition so much easier and gives you so much belief as you’re confident of winning your home games.

Your prediction table?

Mike: France and Ireland are favourites for sure, and whoever wins that game will be likely to take the championship. 

    1. France
    2. Ireland
    3. Wales
    4. England
    5. Italy
    6. Scotland

Shane: 

  1. France
  2. Ireland
  3. Wales
  4. England
  5. Scotland 
  6. Italy

James:

  1. Ireland
  2. France
  3. Wales
  4. England
  5. Scotland
  6. Italy

Lee:

  1. France
  2. Ireland
  3. England
  4. Scotland
  5. Wales
  6. Italy 

Who is your Welsh ‘one to watch’ in the tournament?
Mike:
Zammit! Great to see a young player coming through who’s enjoying himself and doing the business on the field in a major way!

Shane: For me personally its Jac Morgan. He’s local to me. I was in school with his mother!

Lee: He looks a bit like Shane mind.

Shane: Hahahha I held hands with her once I think.  And I also played rugby with his dad. I like his attitude. He’s always been a hard worker. He’s been criticised about not being big or strong enough but then he came back and did what he did in the Autumn Series. There’s talk about him being the future captain. He’s been phenomenal in the Ospreys since he’s joined.

Rio Dyer might have another chance. He’s had a skip in his step since playing international rugby. He’s exciting and talented. He’s got his work cut out as it’s such a strong position in Wales on the wing with Adams, Zammit and Williams.

But overall, we’ve got a lot of talent coming through. We need a bit more drip fed in there, and it’ll be interesting to see how Gats does that working with the regions and bringing some really class players through.

James: Jac Morgan for me. He’s been unbelievable. He definitely should be involved in that back row somewhere. Obviously the usual – Faletau, Zammit if he’s fit, Dewi Lake. Gatland likes to throw in a wild card, not that he is one, but there will likely be a changing of the guard in terms of bringing some of the younger boys in. He’s a Gatland type of player too… in terms of being hard as nails and a good leader.

Lee: Jac Morgan and Dewi Lake. Also Liam Williams – he had a great come back game in Jan and a position we really struggle with in Wales – number 15. Great to see him back.

Outside of Wales, anyone particular you look forward to watch?

Lee: Capuozzo from Italy. Excited to have a super star in the Italian squad.

James: Marcus Smith; it would be nice to see him take the Six Nations by the scruff of the neck. I think sometimes it’s difficult having Farrell outside of him. I think he’s such a talented player. I’d love to see him fly.

Shane: Darcie Graham from Edinburgh. He’s been ripping it up in the URC. He’s gutsy, he knows the way to the try line and is exciting to watch. Obviously, you’ve got Van de Merwe too – chalk and cheese.

So on a personal note, what are you up to? Life after rugby, where’s that taken you all?

Shane: It takes us all over the place. It’s been a tough couple of years having retired and then gone straight into lockdown. So we started to look at projects to do together, and decided to do a Fab Four coffee which meant it got us back together and brought something different than rugby.

Since then, collectively we’ve started Perthyn; a 10% spirit, which is an alternative to a gin for people who don’t want to be drinking 40% spirits. We’ve collaborated with British Airways and the WRU and it just brings us together as a team again. We’ve had a good crack doing it. It’s different. But life goes on.

James: We all finished, and you see so many players who are together for 17 years and go off alone and don’t see their teammates for so long. We are keeping our friendship and relationship going. It’s great catching up with the boys and having a good laugh. It’s a natural progression.

Lee: It’s probably the hardest when you retire and you sort of lose your identity, and obviously coming back together gives you a belonging again. This has reignited our friendship after going in different directions and allows us to see each other more now.

Shane: You can always rely on Phillsie (Mike Phillips) to be hammering you with new ideas from his sun lounger.

James: I’m Head of Labels – I love it.

Lee: Life goes on, nothing is going to come at you when you retire. You’ve got to make it happen yourself.

Shane: You go from pretty much having your backside wiped and now we’ve got to do it ourselves. When my butler isn’t busy of course 😊

Edrych yn ôl ar y Chwe Gwlad gyda’r “Fab Four”

 

Mewn lleoliad cyfarwydd i’r pedwar, eisteddom i lawr yng Nghartref y Gweilch; Stadiwm Swansea.com gyda Lee Byrne, James Hook, a Shane Williams er mwyn i fyny ar eu rhagfynegiadau ar gyfer y twrnamaint sydd i ddod, yn ogystal ag edrych yn ôl dros eu hamser yn chwarae. Cafodd y pedwerydd aelod, Mike Phillips, sy’n byw yn Dubai ar hyn o bryd, ei gyfweld ar wahân.

 

Dywedwch wrthym eich hoff atgofion am bencampwriaeth y Chwe Gwlad

Mike: Yr eiliadau buddugol yw’r gorau bob tro. Roedd ennill yn Twickenham yn 2008, ochr yn ochr â Lee, Shane a James yn anhygoel, ac yna’n mynd ymlaen i ennill y Gamp Lawn y flwyddyn honno.

Roedd y Gamp Lawn yn 2012 yn arbennig hefyd oherwydd yr hyn ddigwyddodd yng Nghwpan y Byd 2011 (collodd Cymru 9-8 yn y rownd gynderfynol i Ffrainc gyda 14 dyn, ar ôl i Sam Warburton gael ei anfon i ffwrdd yn ddadleuol), a sut wnaethon ni ddod nôl a defnyddio hynny fel cymhelliant i ennill y bencampwriaeth. Yna i ddilyn hynny drwy ennill y Bencampwriaeth yn 2013 a churo Lloegr gyda 30 pwynt i ddod â fe adref eto.

Lee: Mae’n rhaid mai’r Gamp Lawn yn 2008 yw e i fi. Ennill y gêm gyntaf yn Twickenham, a’r dyn ‘ma sy’n eistedd wrth fy ymyl (gan gyfeirio at James), oedd wedi gosod y cyfle i fi ar gyfer y cais. Ond curo Lloegr am y tro cyntaf ers 22 mlynedd – dyna i mi oedd dechrau fy ngyrfa ryngwladol.  Fe wnaeth i mi fagu hyder fel chwaraewr ac fe aethon ni ymlaen i ennill y Gamp Lawn.  Roedd yn wych ei hennill gyda Mike, Shane a Hooky – roedd ganddon ni i gyd ran fawr yn y gêm honno.

James: Dwi’n meddwl y bydd yn debyg i’r pedwar ohonon ni fod yn onest. Rwy’n meddwl ar wahân i’r Gamp Lawn yn 2008 – rhaid mai fy ngêm gyntaf yn y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon. Roedd jest chwarae yn y Chwe Gwlad yn ddigon arbennig a ges i fy nghap cyntaf allan yn yr Ariannin.
Roedd y gêm Twickenham honno’n arbennig iawn i mi – y ffordd roedden ni mor wael yn yr hanner cyntaf, a doedd neb yn disgwyl i ni ennill, ac yna daethon ni’n ôl yr ail hanner a mynd ymlaen i ennill y Gamp Lawn.

Shane: Ie, yn amlwg roeddwn i wedi ennill y Gamp Lawn yn 2005 (pawb yn chwerthin am iddo fod mor swil) … Dwi dipyn bach yn hŷn na’r bechgyn yma. Roedd hynny’n anhygoel achos doedd neb yn rhoi gobaith i ni hyd yn oed wneud yn dda yn y Chwe Gwlad yna.  Roedden ni wedi cael 2004 druenus ac fe enillon ni’r Gamp Lawn!!
Un o’r pethau gorau i fi o ran Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oedd fy nghap cyntaf. Roeddwn i ond wedi bod yn chwarae rygbi proffesiynol am 18 mis, a ches i’r cyfle i chwarae yn erbyn Ffrainc yn 2000 yn Stadiwm y Mileniwm a fy nghyffyrddiad cyntaf oedd pas rhyng-gipiad i Émile Ntamack, a sgoriodd wedyn o tua 60 llath, felly meddyliais yn syth fod fy ngyrfa ryngwladol ar ben. Serch hynny, ar ôl y gêm, daeth Graham Henry ataf, a llongyfarch fi ar berfformiad da a dweud fy mod i’n mynd i fod yn chwarae’r wythnos ganlynol yn erbyn yr Eidal, felly mae hynny bob amser yn sefyll allan i mi. Mae gen i gymaint o atgofion melys o’r Chwe Gwlad – mae’n bencampwriaeth anhygoel.

 

Allan o’r meysydd, pa un oedd eich hoff un i chwarae ynddo? A pham?

Mike: Mae James bob amser yn dweud taw’r hyfforddwyr gorau sydd gennych chi yw’r rhai sy’n eich dewis chi, ac mae’n debyg o ran y cwestiwn hwn hefyd. Yn y bôn, y stadia/meysydd gorau yw lle rydych chi’n ennill! Ennill yw beth sy’n bwysig. Y Principality yw’r gorau yn y byd, ond roeddwn i hefyd wrth fy modd yn chwarae yn Twickenham – dwi wedi cael dau ddechreuad yno ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a dwy fuddugoliaeth!

Shane:  Allwch chi ddim curo Stadiwm y Mileniwm, dyna oedd lle ddechreuodd fy ngyrfa ryngwladol. Y gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc, a’r gêm olaf yn erbyn Awstralia.  Dwi braidd yn rhagfarnllyd a dweud y gwir, ond allwch chi ddim cael gwell na’r stadiwm ‘na.

Wedi dweud hynny – fe wnes i hefyd fwynhau chwarae lan yn Murrayfield, a byth wedi colli fan’na! Cawsom gwpl o nosweithiau da allan hefyd wedi’r gemau. Dyw hi ddim yn ddinas wael i ymweld â hi o ran y rygbi – ac i gael ambell i gwrw hefyd. Ac mae’n stadiwm hanesyddol a thraddodiadol iawn a ‘nes i fwynhau yno’n fawr.

James:  I fi, Stadiwm y Principality yw fy hoff un. Heblaw hynny, roeddwn i’n arfer caru chwarae yn Stade de France.  Mae’n lle anodd i fynd, ond o ran edrychiad y stadiwm, a’r awyrgylch yno.  Mae cefnogwyr Ffrainc yn boncyrs, ond mewn ffordd dda.

Lee:  Ie, Stadiwm y Principality. Ond mae pob chwaraewr rydych chi’n siarad â nhw – o Seland Newydd, o Awstralia, unrhyw wlad, maen nhw bob amser yn dweud mai’r Principality sydd â’r awyrgylch orau. Hefyd, Stade de France, dwi wrth fy modd yn chwarae yn ystod y nos, ac mae gemau Ffrainc bob amser yn dechrau am 9pm. Dwi wastad wedi cael atgofion da yno, wastad wedi chwarae’n dda a sgorio cwpl o geisiadau da yno – y dorf – 85,000! Dwi wir yn ei fwynhau!

 

Beth sy’n well gennych, to ar agor neu do ar gau?

James:  Ar Gau

Shane:  Ar gau – Caewch y to ‘na – ac mae’n cadw mewn cymaint o’r awyrgylch! A dydyn ni ddim yn hoffi’r glaw a dweud y gwir!

Lee:  Ar gau – dwi ddim eisiau i’r tan ffug ddod i ffwrdd! Doedd Henson ddim yn hoffi’r glaw

 

A beth am y maes rydych yn ei hoffi lleiaf? A pham?

Mike: Efallai stadiwm bresennol yr Eidal; Stadiwm Flaminio. Dim ond oherwydd nad oedd yr awyrgylch cystal â’u hen stadiwm. Ond dinas anhygoel i chwarae ynddi, â’i holl hanes. Mae pobl wedi cwestiynu’r Eidal dros y blynyddoedd ond fel lle i ymweld â hi, allwch chi ddim cael gwell na Rhufain. Ac mae’n anhygoel eu gweld nhw’n gwella go iawn dros y 2 dymor diwethaf.

Lee:  Roedd Lansdowne Road yn lle erchyll i chwarae – gwyntog iawn ac agored.  Croke Park – dwi wedi cael 2 gerdyn melyn yno, felly dwi ddim yn ffan o hynny chwaith.

Shane:  Twickenham i mi, wnes i erioed gynhesu ato. Yn amlwg fel chwaraewr, dydych chi ddim yn mynd i gael llawer o groeso, fel Cymro. Roedd hi’n teimlo’n eithaf fflat pryd bynnag o’n i’n chwarae yno.  Fe enillon ni yno unwaith, yn 2008 – fe wnaeth y bechgyn chwarae’n anhygoel felly roedd hynny’n fuddugoliaeth fawr ac yn deimlad gwych. Dwi’n cofio mynd i gemau a chael pethau wedi eu taflu at y bws a gorfod dal Alfie nôl ar y bws achos oedd e ishe camu mas a chael gair bach. Mae’n lle anodd i’w chwarae a dim llawer o atgofion melys yno mewn gwirionedd.  Rydyn ni wedi cael ambell i gêm erchyll yno ar adegau hefyd.

Mae hefyd yn bell o unrhyw le, felly ar ôl y gêm – roedd ceisio cyrraedd y dafarn heb weld unrhyw gefnogwyr o Loegr yn dasg ynddo’i hun.  Taith gerdded hir iawn…

 

Sut beth yw’r seremonïau/partïon/lletygarwch ar ôl y gêm i chwaraewyr?  Oes ‘na rai da a rhai gwael?

James:  Yr Eidal sy’n ei wneud y gorau!  Tei du – yffach o wledd. Mae Twickenham ond yn bastai clou a bant â chi.

Shane:  Mae’r Eidal yn adnabyddus am eu ‘digwyddiadau ysblennydd’ – doedden ni’r bechgyn Cymru heb arfer â’r fath beth. Roedden ni’n troi lan i ryw chateau ar ben bryn, gyda gwarchodwyr arfog yn ein gyrru ni. Bydden ni’n baglu mas a byddai pobl fel Bergamasco a Parisse, yn troi i fyny mewn Ferraris yn tywys merched uwchfodel anhygoel. Ffordd o fyw hollol wahanol. Nôl yng Nghaerdydd oedd just yr Hilton yna’n syth i Walkabout neu Tiger Tiger.

 

Eich gwrthwynebydd gwaethaf a pham o fewn y Chwe Gwlad?

Mike: Byddwn i’n dweud Sergio Parisse!  Bob amser yn camsefyll, a phe bai’n dangos unrhyw fath o sgil byddai pobl yn mynd ymlaen am y peth am flynyddoedd wedyn. Dwi’n dadlwytho’r bêl yn wych a does neb yn sôn am hynny!

Lee:  Fel cefnwr, i fi, wastad rhywun fel Ronan O’Gara – does fawr neb fel cefnwr ti’n gallu cael ffrae â nhw, ond mae e’n un i fi.

Shane:  Roedd Austin Healey yn bendant yn un ac yna’r holl beth gyda Benny Cohen a ‘Shane pwy?’. Felly fy ngêm gyntaf yn Twickenham yn 2000, ro’n i fyny yn erbyn Healey a Cohen a thrwy’r gêm, doedd Ben ddim yn dweud un gair, ond wnaeth Healey ddim cau ei geg am yr 80 munud cyfan, gan ddweud wrtha i ”Cer nôl i weld dy ddefaid”, a mod i’n ‘foi mam” a bo fi ‘ddim yn ddigon hen i chwarae dros fy ngwlad” ac fe siaradodd e fi bant o’r cae – roedd e’n hunllef llwyr. Yna ar ôl y gêm, fe wnaeth Ben Cohen y sylw ‘Shane pwy?’  a oedd falle’n deg achos o’n i’n ofnadwy. Ond roedd Shane Howarth a fi’n chwarae yn y gêm, felly ‘nes i ddim cymryd y peth yn bersonol ond y broblem oedd, roedd Cymru gyfan yn gandryll. ‘‘Sut yw e ddim gwybod pwy yw Shane ar ôl chwarae yn erbyn e am 80 munud?!!’’, ac roedd yn dipyn o beth yn y papurau – roedd hyd yn oed fy mam-gu a fy nhad-cu wedi cynhyrfu ac yn flin!  Dyna pryd nes i sylweddoli go iawn am y tro cyntaf pa mor ddifrifol yw cefnogwyr Cymru am y gêm. A dwi’n cofio, aeth e (Cohen) ymlaen wedyn i chwarae yn erbyn y Sgarlets ym Mharc y Strade ac fe gafodd ei rinsio’n llwyr am 80 munud oherwydd hynny. Mae’n rhyfedd a dweud y gwir, gan nad oes neb yn y Sgarlets yn hoffi fi i mewn gwirionedd achos dwi’n fachgen o Gastell-nedd!!! Haha.  Ond yn onest, nes i fyth cymryd fawr o sylw am y peth, ond yn sicr fe wnaeth Cymru.

Heblaw am hynny Mike Phillips – haha!  Er bod e’n ffrind – fe yw eich gwrthwynebydd hyd yn oed pan fyddwch chi ar yr un tîm. Mae gen ti ofn gwneud camgymeriad!  Fe a Ronan O’Gara mewn unrhyw gêm Iwerddon – y cyfan ry’ch chi’n gallu clywed yw’r ddau yna’n mynd ar ôl ei gilydd, ond yna’n hapus cael peint gyda’i gilydd wedyn.

James:  Fy ngêm gyntaf yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad yn 2006, O’Gara oedd yn chwarae, ac roedd e’n cael go arna’i yn dweud wrtha ”f off” a ”cer nôl lawr i’r cynghreiriau is”, ond ar ôl y gêm, mae e’n grêt.

 

Dinas orau am noson allan ar ôl y gêm?

Mike: Mae’n rhaid mai Caerdydd yw hynny, ar ôl unrhyw fath o fuddugoliaeth! Ond heblaw am hynny, mae Dulyn yn anhygoel!  Na’i ddweud dim mwy!!

Lee:  Dulyn, yn bendant! (wedi’i ddweud heb eiliad o oedi) – Copper Face Jacks, Krystles – ie, yn bendant!  Es i yno’n ddiweddar, yn sobr!! Haha, roedd yn braf cael bod nôl. Dulyn i mi – 100%

James:  I mi, roedd yr Eidal bob amser yn dda!  Bydden ni’n cael y digwyddiad, ac wedyn bydden ni’n mynd allan wedyn. Dwi’n meddwl ble bynnag ti’n ennill, mae hi wastad yn noson dda wedyn.

Shane:  Byddai’r Eidal yn dechrau soffistigedig, gyda chanapés a siampên, ac yn gyflym byddai’n mynd o dei du i’ch tei o amgylch eich pen fel Rambo – rydych chi ar y sambwcas a wedyn bant â chi i’r dref. Chi’n cael gofal da yn yr Eidal, mae bechgyn yr Eidal yn mynd allan efo chi wedyn, ond wedyn mae ‘na wastad y daith gerdded hir unig yna adref. A’r tro hwnnw nes i a Lee dipio’r fflôt laeth ar y ffordd adref haha. Dyna beth yw noson yn yr Eidal yn wir.

Lee:  Ydy – yn amlwg mae wedi newid tipyn erbyn hyn, gan nad yw’r bechgyn yn gallu mynd allan yng Nghaerdydd oherwydd y cyfryngau cymdeithasol.  Roedden ni’n lwcus achos naethon ni jest colli hynny.

 

Unrhyw straeon diddorol o nosweithiau allan y gallwch eu rhannu?

Mike: O’n i byth yn arfer mynd allan ar ôl gemau!

 

Sut mae Cymru’n edrych o ran pencampwriaeth y Chwe Gwlad?

Shane:  Peidiwch â meddwl nad oes siawns gan Gymru. Roeddwn ni’n ofnadwy yn 2004, ac yna enillon ni’r Gamp Lawn yn 2005. Cawsom ein curo gan Fiji yn 2007 ac felly allan o Gwpan y Byd ac yna aethon ni ‘mlaen i ennill y Gamp Lawn yn 2008.

Mae Gats (Warren Gatland) nôl nawr, ac mae e’n sicr wedi gwneud y tro yn y gorffennol. Dwi’n meddwl bod wir ganddo waith o’i flaen y tro hwn. Dwi ddim yn credu bod ganddo ansawdd y chwaraewyr oedd ganddo yn 2008, yn sicr.  Ond allwn ni ddim gwneud yn waeth na’r hyn rydyn ni wedi’i wneud yn ddiweddar.  Dwi’n meddwl bod ‘na gyfnod tawel mewn rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd. Dwi’n meddwl bod e wedi gwella ychydig yn ddiweddar, roedd yna rai gemau rygbi gwych y Nadolig diwethaf gyda rhai chwaraewyr da yn dod drwodd, a pherfformiadau unigol yng Nghyfres yr Hydref. Ond mae Gats â gwaith o’i flaen y tro hwn yn bendant, a bydd yn ddiddorol gweld beth mae’n ei wneud, pa chwaraewyr mae’n dod â nhw i mewn, pa hen rai sydd angen iddo wthio allan, a pha bobl ifanc sy’n mynd i ddod drwodd, ond peidiwch â meddwl bod dim cyfle o gwbl gan Gymru. Mae ganddon ni dueddiad o fownsio’n ôl a chwarae’n dda pan fydd ein cefnau’n erbyn y wal. Mae ganddon ni Gwpan y Byd ar y gweill hefyd ymhen llai na blwyddyn. Mae Gats yn dda ond ydi e mor dda â hynny?!

James:  Dwi’n meddwl mai momentwm yw’r peth. Os guron ni Iwerddon yn y gêm gyntaf, mae’n ymwneud â chredu! Iwerddon yw un o’r cystadleuwyr i’w hennill, dwi’n meddwl.  Mae’n debyg y bydd rhai wynebau newydd o dan Gatland, ac a fydd yn dewis capten newydd yn arwain lan at Gwpan y Byd. Mae sôn am Jac Morgan o bosib yn gapten, ac mae e ond yn 22 (fel oedd Warburton). Pan mae’n dod i mewn, mae’n hoffi synnu pawb drwy wneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol. Dewch i ni weld pwy yw’r staff ystafell gefn. A fydd yn dod â Howley nôl mewn, haha.

Serch hynny, mae ganddon ni chwaraewyr o safon yno – mae jest angen i bethau fod yn fwy cyson.

Lee: Dwi jest yn edrych ymlaen i weld sut mae Gats yn ail-frandio’i hun. Mae wedi sôn am lawer o’i gyfrinachau mewn digwyddiadau cinio (am ei chwarae gemau meddwl ysgogol). Doeddwn i ddim yn disgwyl dod o hyd iddo nôl yn hyfforddi Cymru, mae’n debyg nad oedd e chwaith. Bydd yn glod iddo os gall ei droi o gwmpas a bydd yn ddiddorol gweld sut rydyn ni’n gwneud. Os allwn ni guro Iwerddon, a chael y momentwm yna, fe allwn ni fynd ymlaen i’w ennill, ond os ddim, mae gennym ni Loegr gartref yna Ffrainc i ffwrdd, dyw e ddim yn edrych yn debygol.  Gallwn ni ddim anghofio am yr Eidal chwaith – un o’r gwledydd rhyngwladol mas ‘na sydd wedi gwella cymaint, bydd yn anodd beth bynnag fydd yn digwydd.

 

Pa effaith mae Cwpan y Byd yn ei gael ar chwaraewr?

Shane:  Pwysau enfawr a dwi’n meddwl bod hynny’n dda.  Y chwaraewyr sy’n gallu delio â’r pwysau mwyaf bob tro yw’r chwaraewyr gorau y byddwch chi’n eu cael yn eich sgwad.  Bydd llawer o wynebau newydd yn y Chwe Gwlad eleni, ond beth mae hynny’n ei wneud yw gosod her. Os ydych chi’n chwarae’n dda yn y Chwe Gwlad yna mae ‘na gyfle da iawn, bo chi’n mynd i fod yng Nghwpan y Byd, os na fyddwch chi, bydd e’n dod â rhywun arall mewn – mae Gats yn eitha’ didrugaredd.

Hefyd, ar gyfer y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, mae’n dweud wrth chwaraewyr bod angen iddyn nhw chwarae’n dda yn eu rhanbarthau neu glybiau, neu na fyddan nhw’n cael eu dewis. Mae’n gyffrous.  Mae ‘na newid y drefn o ran yr hyfforddwr. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn bwysig, un o fy hoff dwrnameintiau, ond mae Cwpan y Byd yn enfawr!  Mae angen i ni gyrraedd o leiaf y camau curo ac ar hyn o bryd mae hyd yn oed hynny’n ofyniad mawr.

 

Pwy ydych chi’n meddwl sy’n debygol o gael yr ail safle yn y Chwe Gwlad eleni? Tu hwnt i Gymru?

Shane:  Ffrainc – Maen nhw’n amlwg yn bencampwyr y Chwe Gwlad.  Maen nhw wastad wedi cael chwaraewyr unigol o safon. Gyda’i gilydd maen nhw’n edrych fel tîm o’r radd flaenaf. Mae Sean Edwards yn bendant wedi bod yn ffactor mawr yn hynny.  Wrth amddiffyn maen nhw’n edrych yn drefnus. Maen nhw’n edrych yn llawer mwy disgybledig na thimau Ffrainc arferol rydyn ni wedi’u gweld yn y gorffennol. A dydyn nhw ddim yn panicio.  Dwi wedi gweld timau Ffrainc yn chwalu’r rhacs, pan maen nhw’n gais neu ddau i lawr ac yna’n colli o 40, 50 pwynt, jest yn rhoi’r ffidil yn y to. Dod allan ar hanner amser gyda mwgyn yn eu ceg, a jest wedi mwynhau gwin a bwrdd caws yn yr ystafell newid haha.

Fodd bynnag, mae’r tîm hwn yn ei chwarae’n iawn reit lan i’r 80 munud ac wedi cael cwpl o fuddugoliaethau munud olaf. Yng Nghyfres yr Hydref roedd yn amlwg bod ganddyn nhw’r hyder yna i chwarae’n iawn tan y diwedd. Dwi’n ffan mawr o Galthie.  Mae e’n gwsmer cŵl iawn. Mae’n gwbod ei bethau. Ac yn sydyn iawn, mae ganddo griw hyfforddi da y tu ôl iddo sy’n ei gadw ar flaenau ei draed ac yn cadw’r chwaraewyr hyn â chwant ennill. Pobl fel Dupont, Ntamack, Penaud a’r bois hynny – maen nhw wir o safon. Maen nhw’n gwybod sut i ennill.   Mae’n ymddangos fel bod pethau’n mynd eu ffordd nhw am y tro.

Ond peidiwch â meddwl nad oes gan Iwerddon gyfle. Maen nhw’n ochr ffwdanus, ond maen nhw angen Sexton. Does ganddyn nhw neb yn agos ato ar hyn o bryd ac mae hynny’n ffactor mawr.

Mae gan Ffrainc cwpl o Sextons. Felly, mae’n rhoi tipyn o ymyl gweithio iddyn nhw dros Iwerddon. Does gan Gymru ddim y cryfder na’r dyfnder sydd gan y lleill ar hyn o bryd, ond eto dwi ddim am swnio fel bo fi’n dibrisio nhw. Yn sicr fydda i ddim yn gosod unrhyw fetiau.

James:  Ar ben isaf y tabl, yna mae’n anodd gwahaniaethu rhyngddynt. Mae’r Eidal yn bendant yn gwella a gallent peri helynt arall eto yn Chwe Gwlad eleni.  Dwi’n meddwl bod angen cadw llygaid ar Loegr, gan fod ganddyn nhw gymaint o dalent ond dydyn nhw ddim wedi bod ar dân yn ddiweddar, ond rhai cadw golwg arnynt. Gallai eu hyfforddwr newydd sbarduno rhywbeth yn hawdd.  Mae ganddyn nhw bŵer enfawr o ran y blaenwyr.

Shane:  Weithiau newid bach mewn personél ydyw. Os edrychwch chi ar Loegr – mae eu sgwad nhw’n enillwyr Cwpan y Byd. Yn hawdd. Ond weithiau os yw pethau’n mynd ychydig yn ddi-fynd, allwch chi ddim rhagweld beth sy’n mynd i ddigwydd.

James:  Rhaid bod e’n rhwystredig i fod yn gefnogwr o’r Alban neu’n hyfforddwr hyd yn oed. Mae Gregor (Townsend) a Tandy (Steve) ill dau wedi gwneud gwaith gwych, mae ganddyn nhw chwaraewyr da iawn, ond dwi ddim yn gwybod beth sy’n digwydd gyda Finn Russell a Gregor.  Fel tîm, mae’n rhaid iddyn nhw fynd i Ffrainc a Twickenham – mae’n mynd i fod yn ofyniad anodd iddyn nhw. Maen nhw’n dîm sy’n gallu troi gêm o gwmpas weithiau, ond o ran cysondeb – dydyn nhw ddim wedi dangos hynny.

Shane: Y ffaith hefyd yw, bod ‘na hyfforddwyr newydd ‘da Lloegr hefyd, felly mae’n foment anodd falle iddyn nhw hefyd, o ran sut mae’r chwaraewyr yn mynd i dderbyn sut mae’r hyfforddwyr am iddyn nhw chwarae. Hefyd, dydy Lloegr ddim yn hoffi chwarae’r Alban, gan fod yr Alban yn gyfforddus wrth chwarae yn eu herbyn nhw.

Dwi’n hoffi’r ffordd mae’r Alban yn chwarae.  Maen nhw’n ceisio chwarae gêm agored ac eang. Mae ganddyn nhw chwaraewyr cyffrous iawn o fewn y sgwad. Bydd rhywfaint o broblem os nad ydyn nhw’n chwarae Finn Russell, gan ei fod e’n wych. Er nad yw Mike Phillips yn meddwl hynny, edrychwch ar Twitter!

Ac maen nhw’n chwarae rygbi hyfryd, ond jest yn colli allan o ran canlyniadau ac mae hynny’n fwy o beth hyder na’u gallu ar y cae. Ond mae gemau anodd iddyn nhw yn y Chwe Gwlad eleni, a dyna pam dwi’n meddwl y byddan nhw’n gorffen yn is lawr ar y bwrdd sgorio. Mae’n bencampwriaeth mor wych mae yna bedwar tîm o bosib sy’n gallu ennill, allan o’r chwech, sy’n gyffrous i’w wylio! Dwi’n mwynhau gwylio’r Alban.  Maen nhw wastad yn sgorio ceisiadau ac yn cael go amdani. Dydyn nhw ddim yn gallu cael y canlyniadau ar adegau.  Tîm rhwystredig i gefnogi.  Maen nhw bob amser jest o fewn cyrraedd!

James:  Yna edrychwch ar Ffrainc.  Rydyn ni wedi bod i Ffrainc o’r blaen, ac ar ôl chwarae’n wael, mae eu cefnogwyr yn dechrau bwio nhw, neu maen nhw’n mynd yn farwol ddistaw, fel bo nhw ddim am drafferthu i gefnogi’r tîm rhagor. Gobeithio nad yw hynny’n wir y twrnamaint hwn.

Shane:  Fydd y Cymry byth yn gwneud hynny!  Cwrw, canu, ac yn ein cefnogi ni.

 

Ydy chwarae gartref yn erbyn chwarae i ffwrdd yn gwneud gwahaniaeth enfawr?

Shane:  Ydy. Wel… nid o ran canlyniadau o’r blaen. Rydyn ni wedi ennill pencampwriaethau wrth chwarae mwy o gemau i ffwrdd.  Ond rydych chi bob amser eisiau chwarae cymaint o gemau gartref â phosib.  Y gefnogaeth, yr awyrgylch, bod yn agos at adref, y cysuron, eich stadiwm cartref, ac ati.  Mae’r cyfan yn helpu.  Os allwch chi fynd oddi cartref a churo tîm gwych, fel yn 2008 yn Twickenham – mae’n gwneud gweddill y gystadleuaeth gymaint haws ac yn rhoi cymaint o gred i chi gan eich bod yn hyderus o ennill eich gemau cartref.

 

Eich tabl rhagfynegi?

Mike:  Mae Ffrainc ac Iwerddon yn ffefrynnau yn sicr, a bydd pwy bynnag fydd yn ennill y gêm honno’n debygol o gymryd y bencampwriaeth.

  • Ffrainc
  • Iwerddon
  • Cymru
  • Lloegr
  • Yr Eidal
  • Yr Alban

Shane:

  • Ffrainc
  • Iwerddon
  • Cymru
  • Lloegr
  • Yr Alban
  • Yr Eidal

 

James:

  • Iwerddon
  • Ffrainc
  • Cymru
  • Lloegr
  • Yr Alban
  • Yr Eidal

 

Lee:

  • Ffrainc
  • Iwerddon
  • Lloegr
  • Yr Alban
  • Cymru
  • Yr Eidal

 

Pwy yw eich ‘un i wylio’ o Gymru yn y twrnamaint?
Mike:
Zammit!  Mae’n wych gweld chwaraewr ifanc yn dod drwodd sy’n mwynhau ei hun ac yn gwneud beth sydd rhaid ar y cae mewn ffordd fawr!

Shane: I mi’n bersonol, Jac Morgan. Mae e’n foi lleol i fi. Ro’n i yn yr ysgol gyda’i fam!

Lee:  Wel, mae’n edrych bach fel Shane.

Shane:  Hahaha ‘nes i ddal dwylo gyda hi unwaith dwi’n meddwl.  Ac ro’n i hefyd yn chwarae rygbi gyda’i dad.  Dwi’n hoffi ei agwedd e.  Mae e wastad wedi bod yn weithiwr caled.  Mae wedi cael ei feirniadu am beidio bod yn ddigon mawr na chryf ond yna daeth nôl a gwneud beth a wnaeth yng Nghyfres yr Hydref.  Mae sôn gall e fod yn gapten y dyfodol.  Mae wedi bod yn anhygoel yn y Gweilch ers iddo ymuno.

Efallai y bydd gan Rio Dyer gyfle arall.  Mae e wedi bod yn fwy bywiog ers chwarae rygbi rhyngwladol. Mae’n gyffrous ac yn dalentog.  Mae ganddo waith i wneud gan ei fod yn safle mor gryf yng Nghymru ar yr asgell gydag Adams, Zammit a Williams.

Ond ar y cyfan, mae ganddon ni lawer o dalent yn dod drwodd. Mae angen ychydig mwy o ddilyniant, a bydd yn ddiddorol gweld sut mae Gats yn gwneud hynny gan weithio gyda’r rhanbarthau a dod â chwaraewyr o’r radd flaenaf drwodd.

James:  Jac Morgan i fi.  Mae e wedi bod yn anghredadwy.  Yn bendant, dylai fod yn rhan o’r rhes gefn honno’n rhywle. Yn amlwg yr arfer – Faletau, Zammit os yw e’n ffit, Dewi Lake. Mae Gatland yn hoffi defnyddio carden wyllt, nid bod e’n un, ond mae’n debygol y bydd newid y gard o ran dod â rhai o’r bechgyn iau i mewn. Mae e’n fath o chwaraewr mae Gatland yn hoffi hefyd… o ran bod yn galed fel dur ac arweinydd da.

Lee:  Jac Morgan a Dewi Lake. Hefyd Liam Williams – fe gafodd e gêm dychwelyd gwych yn Ionawr a safle rydyn ni wir yn ei chael hi’n anodd iawn yng Nghymru – rhif 15. Grêt i’w weld nôl.

 

Tu allan i Gymru, oes unrhyw un penodol rydych chi’n edrych ymlaen at weld?

Lee: Capuozzo o’r Eidal.  Cyffrous i gael seren fel’na yn sgwad yr Eidal.

James:  Marcus Smith; byddai’n braf ei weld yn cymryd y Chwe Gwlad a rhoi sgytwad iddo. Dwi’n meddwl weithiau ei bod hi’n anodd cael Farrell y tu allan iddo.  Dwi’n meddwl ei fod o’n chwaraewr mor dalentog.  Byddwn i wrth fy modd yn ei weld jest yn hedfan.

Shane:  Darcie Graham o Gaeredin.  Mae wedi bod yn wych yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Mae e’n ddewr, mae’n gwybod y ffordd i’r llinell gais ac yn gyffrous i’w wylio. Yn amlwg, mae gen ti Van de Merwe hefyd – mêl a menyn.

 

Felly ar nodyn personol, beth ydych chi’n gwneud ar hyn o bryd? Bywyd ar ôl rygbi, lle mae hynny wedi mynd â chi gyd?

Shane:  Mae’n mynd â ni dros y lle. Mae hi wedi bod yn flwyddyn neu ddwy anodd ar ôl ymddeol ac yna wedi mynd yn syth mewn i’r cyfnod clo. Felly dechreuon ni edrych ar brosiectau i wneud gyda’n gilydd, a phenderfynu gwneud coffi’r “Fab Four” oedd yn golygu bo ni’n ôl gyda’n gilydd ond ar gyfer rhywbeth gwahanol i rygbi.

Ers hynny, ar y cyd rydym wedi dechrau Perthyn; gwirod o 10%, sy’n ddewis amgen i jin i bobl sydd ddim eisiau bod yn yfed gwirodydd cryfder 40%. Rydyn ni wedi cydweithio gyda British Airways ac Undeb Rygbi Cymru ac mae’n dod a ni at ein gilydd fel tîm eto. Mae wedi bod yn hwyl yn neud e. Mae’n wahanol.  Ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen.

James:  Roedden ni i gyd wedi gorffen, ac rydych chi’n gweld cymaint o chwaraewyr sydd gyda’i gilydd am 17 mlynedd ac wedyn yn mynd i ffwrdd ar eu pen eu hunain a byth yn gweld eu cyd-chwaraewyr am gyfnodau hir. Rydyn ni’n cadw ein cyfeillgarwch a’n perthynas i fynd.  Mae’n grêt dal fyny efo’r bechgyn a chael hwyl. Mae’n ddilyniant naturiol.

Lee:  Y cyfnod anoddaf yw pan fyddwch chi’n ymddeol ac mewn ffordd yn colli eich hunaniaeth, ac yn amlwg mae dod yn ôl at ein gilydd yn rhoi teimlad o berthyn i chi eto. Mae hyn wedi ailgynnau ein cyfeillgarwch ar ôl mynd i wahanol gyfeiriadau ac yn caniatáu i ni weld ein gilydd mwy aml nawr.

Shane: Gallwch ddibynnu bob amser ar Phillsie (Mike Phillips) i fod yn eich boddi gyda syniadau newydd o’i wely haul.

James:  Dwi’n Bennaeth Labeli – dwi wrth fy modd.

Lee: Mae bywyd yn mynd yn ei flaen, does dim byd yn mynd i ddod atoch chi pan fyddwch chi’n ymddeol.  Mae’n rhaid i chi wneud iddo ddigwydd eich hun.

Shane:  Rydych chi’n mynd o fwy neu lai’n cael popeth wedi’i wneud i chi, i sefyllfa nawr lle mae’n rhaid i ni ei wneud popeth ein hunain. Pan nad yw fy ngwas yn brysur wrth gwrs